26 Hydref 2016

 

Annwyl Bethan Jenkins

Rydym yn ysgrifennu fel ymateb cychwynnol ar ran Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru (CACC / ARCW) i Adolygiad Llywodraeth Cymru o Wasanaethau Treftadaeth ac yn arbennig at ffurfio Treftadaeth Cymru.

Mae'r sector archifau yng Nghymru yn cynnwys:

• 13 o wasanaethau archifdai awdurdod lleol gan gynnwys 3 gwasanaeth ar y cyd, gyda 15 pwynt gwasanaeth

• 5 o wasanaethau archifau addysg uwch

• Llyfrgell Genedlaethol Cymru

• Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

• Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC)

Gan nad yw’r cynnig wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd nid yw wedi cael ei drafod yn ffurfiol eto gan aelodau ARCW. Rydym yn gobeithio bod mewn gwell sefyllfa i ymateb yn fwy llawn i'r adroddiad yn dilyn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Tachwedd

Fodd bynnag, rydym yn deall bod yr hyn a gynigir yn golygu newid mawr ar gyfer yr Amgueddfa (sy'n aelod o ARCW), ei statws a'i gallu i reoli ei chyllideb ei hun. O ystyried natur bwysig y newid arfaethedig byddem yn disgwyl cyfnod digonol o ymgynghori cyhoeddus gyda llawer o gyhoeddusrwydd lle nodir yn  glir yr opsiynau dan ystyriaeth a manteision yr hyn  a ddewiswyd.

Rydym yn bryderus iawn am y cynnig cyfredol ac yn credu byddai budd o gael trafodaeth gyhoeddus fwy manwl ar y mater.

Yr eiddoch yn gywir

 

Nia Mai Daniel a Helen Palmer

Ysgrifennydd a Chadeirydd CACC / ARCW


 

 

26 October 2016

Dear Bethan Jenkins

We write as an initial response on behalf of the Archives and Records Council of Wales (ARCW) to the Welsh Government Review of Heritage Services and in particular to the proposed formation of  Heritage Wales.

The archive sector in Wales comprises:

13 local authority archive services (record offices) including 3 joint services, with 15 service points

5 higher education archive services

The National Library of Wales

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

The Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales (RCAHMW)

. The proposal has had little publicity and has not yet been formally discussed by ARCW members.  We hope to  be in a better position to respond more fully  to the report following our AGM in November.

However, we understand that what is proposed would constitute a major change for the Museum (which is a member  of ARCW), its status and its ability to control its own budget.  In view of the momentous nature of the proposed change we would expect there to be an adequate and well publicised period of public consultation which clearly states the options under consideration and the benefits of the one selected. 

We are deeply concerned by the current proposal and  believe that the matter would benefit from a more detailed public exposition,

Yours sincerely

 

Nia Mai Daniel    & Helen Palmer

ARCW Secretary   Chair of ARCW